Skip to main content

Prynu rhydd-ddaliad tŷ lesddaliad

Ymateb y landlord

Ar ôl i’r landlord gael eich hysbysiad tenant, bydd naill ai’n cytuno neu’n anghytuno â’ch hawl i ryddfreinio. Gall nodi ei safbwynt ar hyn (gan gynnwys ei resymau) mewn “hysbysiad mewn ymateb” swyddogol.

Os na fydd yn anfon hysbysiad mewn ymateb o fewn 2 fis i ddyddiad eich hysbysiad tenant:

  • gall fod yn atebol am ffioedd os oes rhaid i lys ddyfarnu ar benderfyniad ar yr hawl i ryddfreinio neu bris y rhydd-ddaliad
  • ni all herio’n ddiweddarach faint o eiddo mae’n dymuno eu cynnwys yn y rhyddfraint neu eu heithrio o’r rhyddfraint

Os yw’r landlord yn cytuno

Fel arfer, bydd y landlord yn rhoi hysbysiad mewn ymateb i chi i gadw ei hawliau i gymryd rhan yn y broses o bennu’r pris prynu a faint o eiddo sy’n cael ei werthu.

Pan fydd yn cydnabod eich hawl, gall trafodaethau ynghylch y pris ddechrau.

Gall y landlord ofyn am flaendal o hyd at 3 gwaith y rhent blynyddol y bydd yn rhaid i chi ei dalu o fewn 14 diwrnod o’r adeg y bydd yn rhoi rhybudd i chi.

Pan fyddwch yn cytuno ar bris, bydd gennych chi a’r landlord 4 wythnos i gwblhau’r gwerthiant.

Os na allwch gytuno ar bris neu delerau eraill y gwerthiant, dylech wneud cais i’r:

  • Tribiwnlys Haen Gyntaf (Siambr Eiddo) yn Lloegr
  • Tribiwnlys Prisio Lesddaliadau yng Nghymru

Bydd y tribiwnlys wedyn yn gwneud dyfarniad terfynol.

Rhagor o wybodaeth: gwneud cais i’r tribiwnlys.

Os nad yw’r landlord yn cytuno

Mae’n bosibl y bydd y landlord yn gwrthwynebu eich hawliad mewn hysbysiad mewn ymateb, neu mae’n bosibl y bydd yn dewis peidio ag ymateb.

Os nad yw’n derbyn bod gennych hawl i ryddfreinio neu os nad yw’n ymateb i’r hysbysiad, bydd angen i chi wneud cais i lys am orchymyn breinio i brynu’r rhydd-ddaliad.

Last updated:
17 December 2025
Next review:
17 December 2027