Prynu rhydd-ddaliad tŷ lesddaliad
Meini prawf cymhwyso
I fod yn gymwys ar gyfer yr hawl i brynu’r rhydd-ddaliad, mae rhai prif amodau neu ofynion:
- rhaid mai chi yw’r lesddeiliad
- rhaid i’r tŷ gael ei “ystyried yn rhesymol” yn dŷ – felly, wedi’i addasu i fyw ynddo ac ar wahân i unrhyw dŷ/dai cyfagos, neu wedi’i rannu oddi wrth dŷ/dai cyfagos yn fertigol gan wal
- rhaid i’ch les fod wedi cael ei rhoi am fwy na 21 mlynedd yn wreiddiol neu rhaid bod gennych yr hawl i adnewyddu
- ni ddylai eich les fod wedi cael ei chreu drwy isosod gan landlord sydd â les fer
- Last updated:
- 17 December 2025
- Next review:
- 17 December 2027