Prynu rhydd-ddaliad tŷ lesddaliad
Cyflwyniad
Os ydych yn berchen ar dŷ lesddaliad, mae’n bosibl y byddwch yn gymwys i gael yr hawl gyfreithiol i brynu’r rhydd-ddaliad am bris a gyfrifir gan un o ddwy fformiwla statudol. Bydd angen i chi fodloni ychydig o amodau yn gyntaf. Mae prynu’r rhydd-ddaliad drwy ddefnyddio’r hawl hon yn cael ei alw’n rhyddfreinio.
Gall y broses rhyddfreinio gymryd llawer o amser. Yn aml, mae’n cymryd blwyddyn neu fwy o’r dechrau i’r diwedd.
Gallech geisio negodi gyda’r rhydd-ddeiliad yn anffurfiol yn gyntaf. Dylech gael cytundeb ysgrifenedig gyda nhw ynghylch pa gostau cyfreithiol a chostau eraill y dylech eu talu. Os na allwch gytuno ar y pris a’r telerau’n anffurfiol, gallwch wedyn ddefnyddio rhyddfreinio (ar yr amod eich bod yn gymwys).
Os oes gennych dŷ lesddaliad gyda les fer, mae prynu’r rhydd-ddaliad fel arfer yn ddewis gwell nag ymestyn y les. Gall hyn newid, gan fod disgwyl i gyfnod yr estyniad gynyddu o 50 mlynedd i 990 mlynedd fel rhan o ddiwygiadau arfaethedig y llywodraeth i lesddaliadau.
Beth sy’n cael ei gynnwys yn y gwerthiant?
Mae rhyddfreinio yn rhoi’r hawl i chi i rydd-ddaliad y tŷ ac unrhyw “eiddo” sy’n dod gyda’r rhydd-ddaliad.
Gall eiddo gynnwys:
- garej
- adeilad allanol
- gardd
- iard
Er bod adeiladau fel arfer wedi’u cynnwys yn y rhydd-ddaliad, nid yw’r gyfraith yn mynnu eich bod yn eu cymryd nhw.
Efallai y bydd y landlord yn gofyn am gael gwneud y canlynol:
- cadw rhai adeiladau pe byddai eu gwerthu nhw’n achosi caledi neu anghyfleustra iddo
- rhoi eiddo ynghlwm wrth y gwerthiant os byddai eu cadw nhw’n achosi caledi neu anghyfleustra iddo
Efallai y bydd yn rhaid i chi dderbyn ei gais os bydd yn cyflwyno ‘hysbysiad mewn ymateb’ i chi. Os na allwch gytuno, gallwch ofyn i lys setlo’r mater.
- Last updated:
- 17 December 2025
- Next review:
- 17 December 2027