Prynu rhydd-ddaliad tŷ lesddaliad
Cwblhau’r gwerthiant
Pan fydd y pris a’r telerau wedi’u pennu, bydd angen i’r ddau barti gymryd camau penodol i gwblhau’r gwaith o drawsgludo’r rhydd-ddaliad. Nodir y rhain gan Reoliadau Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhyddfreinio ac Estyn) 1974. Bydd canlyniadau os na fydd y naill barti neu’r llall yn cyflawni ei gyfrifoldebau.
Eich cyfrifoldebau
Fel lesddeiliad, rydych chi’n gyfrifol am y canlynol:
- talu’r pris prynu (ac unrhyw rent tir sy’n ddyledus)
- cwblhau’r trawsgludiad pan fydd y pris a’r telerau wedi’u pennu
- llofnodi a dychwelyd y weithred drawsgludo o fewn yr amser penodedig
- talu costau cyfreithiol a phrisio rhesymol y landlord
Os byddwch yn methu â chyflawni unrhyw un o’r cyfrifoldebau hyn, gall y landlord roi rhybudd diffygion i chi. Bydd hwn yn egluro pa gyfrifoldeb sydd heb ei gyflawni ac yn gofyn i chi ei gyflawni.
Os na fyddwch yn cyflawni eich cyfrifoldebau o fewn 2 fis i gael rhybudd diffygion, bydd y contract yn dod i ben. Bydd y landlord yn cadw eich blaendal a bydd yn rhaid i chi ddechrau’r broses unwaith eto, a fydd yn arwain at gostau newydd.
Cyfrifoldebau’r landlord (rhydd-ddeiliad)
Mae’r landlord yn gyfrifol am y canlynol:
- darparu a gweithredu trawsgludiad pan fydd y pris a’r telerau wedi’u pennu
- trosglwyddo teitl y rhydd-ddaliad
- bodloni’r holl derfynau amser a nodir yn y Ddeddf a’r rheoliadau
- cwblhau’r trafodiad pan fyddwch yn barod i dalu
Os bydd y landlord yn methu â chyflawni unrhyw un o’i gyfrifoldebau, gallech ystyried gwneud cais am orchymyn llys i’w orfodi i gwblhau’r gwerthiant.
Gallech hefyd roi rhybudd diffygion iddo, ond os ydych am i’r contract gwblhau, nid yw hyn yn cael ei argymell. Os bydd yn methu’r terfyn amser o 2 fis i gyflawni ei gyfrifoldebau, bydd yn dychwelyd eich blaendal ond bydd y contract hefyd yn dod i ben.
- Last updated:
- 17 December 2025
- Next review:
- 17 December 2027