Prynu rhydd-ddaliad tŷ lesddaliad
Gwneud hawliad
Ar ôl i chi gael y prisiad, gallwch baratoi i wneud hawliad am y rhydd-ddaliad. Rydych yn gwneud hyn drwy greu a chyflwyno hysbysiad tenant.
Creu hysbysiad tenant
Rydym yn argymell eich bod yn cael cyfreithiwr i greu’r hysbysiad ar eich rhan. Does dim rhaid i chi gynnwys pris cynnig, ond mae gennych chi’r opsiwn i wneud hynny.
Rhaid i’r hysbysiad gynnwys:
- eich enw a’ch cyfeiriad
- disgrifiad sylfaenol o’r eiddo a’r cyfeiriad er mwyn canfod maint eich hawliad
- manylion y les (fel y dyddiad y cawsoch y les, tymor y les, a’r partïon sy’n rhan o’r les)
- datganiad bod yr eiddo’n gymwys i’w ryddfreinio o dan Ddeddf Diwygio Lesddaliad 1967
- naill ai’r pris a gynigir neu ddatganiad y bydd hynny’n cael ei bennu o dan delerau’r Ddeddf
- manylion y gwerth ardrethol, neu, os rhoddwyd y les ar ôl 1 Ebrill 1990, datganiad nad oes unrhyw fanylion o’r fath yn berthnasol
- y dyddiad, eich llofnod, a llofnod unrhyw gyd-lesddeiliaid
Os na allwch chi lofnodi’r hysbysiad eich hun, gall eich asiant (cyfreithiwr neu rywun rydych chi wedi’i awdurdodi’n swyddogol) ei lofnodi ar eich rhan.
Os nad yw’r gofynion uchod yn cael eu bodloni, gall yr hysbysiad fod yn annilys.
Cyflwyno hysbysiad y tenant
Mae cyflwyno’r hysbysiad yn dechrau’r broses ffurfiol ac yn cadarnhau’r dyddiad prisio. Mae hyn yn golygu y bydd y pris yn seiliedig ar werth yr eiddo ar y dyddiad hwnnw, hyd yn oed os bydd prisiau’n codi yn ystod y broses.
Rhaid i chi neu eich asiant gyflwyno hysbysiad tenant i rydd-ddeiliad yr eiddo ac unrhyw landlord arall sydd â buddiant ynddo.
Gallwch chi wneud y canlynol:
- rhoi’r hysbysiad wyneb yn wyneb
- postio’r hysbysiad i gyfeiriad hysbys diwethaf y landlord yng Nghymru neu Loegr
Os na allwch ddod o hyd i’r rhydd-ddeiliad ar ôl gwneud ymdrech resymol i wneud hynny, mae’n bosibl y gallwch wneud cais i lys i gael prynu’r rhydd-ddaliad.
Os yw’ch rhydd-ddeiliad ar goll
Os na allwch chi ddod o hyd i'r rhydd-ddeiliad, o dan Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad 1967 cewch wneud cais i'r llys sirol i brynu rhydd-ddaliad eich tŷ.
Bydd angen ichi ddangos eich bod wedi gwneud pob ymdrech resymol i ddod o hyd i'r rhydd-ddeiliad yn gyntaf. Er enghraifft, gallech ddefnyddio ymchwilydd proffesiynol (asiant ymholi), a all gyflawni chwiliad a llunio adroddiad yn dystiolaeth i'r llys.
Gall y llys roi gorchymyn o'r enw gorchymyn breinio, i drosglwyddo'r rhydd-ddaliad i chi. Bydd angen i'r pris y byddwch chi'n ei dalu gael ei benderfynu gan y Tribiwnlys Prisio Lesddaliadau yng Nghymru neu’r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn Lloegr.
Gall cyfreithiwr roi cyngor ar beth i'w wneud os yw'ch rhydd-ddeiliad ar goll a sut i wneud cais i'r llys sirol.
- Last updated:
- 17 December 2025
- Next review:
- 17 December 2027