Prynu rhydd-ddaliad tŷ lesddaliad
Prisio rhydd-ddaliad (tai)
Mae’r hawl ryddfreinio yn rhoi hawl i chi brynu rhydd-ddaliad eich tŷ am bris sy’n seiliedig ar un o ddau ddull prisio statudol. Fodd bynnag, mae modd dehongli rhai newidynnau o fewn y fformiwlâu hyn mewn ffyrdd gwahanol, sy’n aml yn arwain at anghytuno rhwng y lesddeiliad a’r rhydd-ddeiliad.
Gall prisiad trydydd parti helpu i atal neu ddatrys yr anghytundebau hyn drwy wneud amcangyfrif gwrthrychol a chywir ar sail ffeithiau perthnasol a gyflwynir gan y partïon.
Defnyddio prisiwr
Dylech gyflogi prisiwr sy’n syrfëwr cymwysedig (aelod o Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig) ac sy’n arbenigo mewn prisiadau rhydd-ddaliadol.
Mae’r broses brisio yn dechnegol iawn ac mae angen gwybodaeth fanwl am y farchnad a mynediad at wybodaeth nad yw ar gael yn rhwydd i’r cyhoedd.
Beth mae prisiwr proffesiynol yn ei wneud
Bydd prisiwr yn:
- dweud wrthych pa un o’r 2 ddull prisio statudol fydd yn cael ei ddefnyddio
- gwneud y gwaith prisio
- sefydlu ystod brisio – y senario gorau a’r senario gwaethaf o ran faint y bydd yn rhaid i chi ei dalu
- negodi gyda’r landlord ar eich rhan
- darparu tystiolaeth arbenigol os na ellir dod i gytundeb a bod y mater yn mynd i dribiwnlys
Fel arfer, mae’n anymarferol ac yn beryglus i lesddeiliaid wneud eu prisiad eu hunain.
Gwybodaeth sydd ei hangen ar gyfer prisiad
Fel arfer, mae prisiwr angen gwybodaeth am y les a gwerthoedd ardrethol hanesyddol y tŷ. Efallai y bydd hefyd yn gofyn a ydych wedi gwneud unrhyw welliannau i’r eiddo.
Y les
Bydd angen y canlynol ar y prisiwr:
- dyddiad y les wreiddiol
- swm y rhent tir gwreiddiol a godwyd ar ddechrau’r les
- unrhyw bremiwm (pris) sydd wedi’i gynnwys yn y les
Dylai hyn fod ar dudalen gyntaf eich les.
Gwerthoedd ardrethol hanesyddol y tŷ
Bydd y prisiwr yn edrych ar y gwerthoedd ardrethol hanesyddol ar gyfer:
- diwrnod cyntaf y les (os oedd un), neu ar 23 Mawrth 1965 (pa un bynnag yw’r hwyraf)
- 31 Mawrth 1990
Dulliau prisio statudol
Mae’r adran hon o’r canllaw yn rhoi trosolwg lefel uchel iawn yn unig o’r broses brisio. Y bwriad yw eich helpu i ddeall y derminoleg a’r cysyniadau sylfaenol cyn cysylltu â phrisiwr proffesiynol. Nid yw’n ganllaw cam wrth gam.
Mae prisiad yn cael ei wneud mewn perthynas ag un o’r canlynol:
- gwerth y safle (gan ddefnyddio’r dull “prisio gwreiddiol”)
- gwerth y tŷ ar y farchnad, gan gynnwys cyfran o’r gwerth priodas (gan ddefnyddio’r dull “prisio arbennig”)
Yn gyffredinol, mae prisiad gwreiddiol yn arwain at bris is, ond dim ond os yw’r canlynol yn berthnasol i’ch les:
- mae’n pasio prawf rhent isel
- nid yw’n fwy na terfynau gwerth penodol
Y dull prisio arbennig sy’n cael ei ddefnyddio i brisio’r rhan fwyaf o rydd-ddaliadau. Ni allwch ddewis pa ddull sy’n cael ei ddefnyddio. Bydd eich prisiwr fel arfer yn gwirio beth yw’r rheolau ac yn dweud wrthych chi.
Mae'r llywodraeth yn bwriadu diwygio’r dull prisio arbennig gan gynnwys trwy ddiddymu gwerth priodas a chapio triniaeth rhent tir yn y cyfrifiad prisio. Ni fydd y dull prisio gwreiddiol yn cael ei newid. Efallai yr hoffech drafod gyda'ch cyfreithiwr neu’ch prisiwr a ydy hi’n well aros nes bod y diwygiadau hyn wedi'u rhoi ar waith.
Dull prisio gwreiddiol - Show Contents Hide Contents
Dim ond tai sy’n pasio prawf rhent isel ac sy’n is na therfynau gwerth penodol sy’n gymwys i ddefnyddio’r dull prisio hwn.
Daw’r dull hwn ar gyfer prisio rhydd-ddaliad o ddeddfwriaeth 1967.
Mae’n seiliedig ar werth y tir y mae’r tŷ yn eistedd arno yn hytrach na’r tŷ ei hun.
Pris prynu’r rhydd-ddaliad yw swm:
- y tymor
- y dychweliad cyntaf
- yr ail ddychweliad
Y tymor yw iawndal i’r landlord am golli’r hawl i gasglu rhent tir dros oes y les. Mae’n cael ei gyfrifo gan ddefnyddio rhent tir, blynyddoedd sy’n weddill ar y rhent, a lluosydd technegol o’r enw ffactor pryniant blwyddyn.
Y dychweliad cyntaf yw iawndal i’r landlord am golli’r hawl i gasglu rhent tir am 50 mlynedd ychwanegol oherwydd yr hawl i ymestyn y les yn awtomatig.
Yr ail ddychweliad yw ffigur sy’n cynrychioli gwerth heddiw yr hawl a fforffedwyd i fod yn berchen ar y tir un diwrnod pan fyddai’r les honno wedi dod i ben.
Dull prisio arbennig - Show Contents Hide Contents
Roedd rheoliadau diweddarach a oedd yn ategu Deddf wreiddiol 1967 yn newid y dull prisio.
Mae’r dull prisio arbennig yn seiliedig ar ddigolledu’r landlord am y ffaith bod gwerthu’r rhydd-ddaliad yn golygu na fydd y tŷ yn dod yn eiddo iddo ar ddiwedd y les.
Pris prynu’r rhydd-ddaliad yw swm:
- y tymor
- y dychweliad
- hanner y gwerth priodas
Mae gwerth y tymor yn cael ei gyfrifo yn yr un ffordd â gwerth y tymor yn y dull prisio gwreiddiol.
Mae’r dychweliad yn cael ei gyfrifo mewn ffordd debyg i’r dull gwreiddiol, ond heb ragdybio estyniad awtomatig o 50 mlynedd i’r les (yr ail ddychweliad).
Mae gwerth priodas yn ymwneud â’r cynnydd yng ngwerth y rhydd-ddaliad oherwydd, fel rhydd-ddeiliad, gall y perchennog ymestyn lesoedd fel y mynnai. Ychwanegir hanner y gwerth priodas at gost prynu’r rhydd-ddaliad.
Wrth ddefnyddio’r dull arbennig i gyfrifo prisiad, mae unrhyw welliannau yr ydych wedi’u gwneud i’r eiddo yn cael eu hanwybyddu.
- Last updated:
- 17 December 2025
- Next review:
- 17 December 2027