Cyflwyniad i lesddaliad
Sut mae eich les yn effeithio ar eich cartref
Mae eich les yn gontract cyfreithiol rhyngoch chi (y lesddeiliad) a’r landlord (y rhydd-ddeiliad). Mae’n rhoi perchnogaeth amodol i chi dros yr eiddo am gyfnod penodol. Fel arfer, bydd yn cynnwys disgrifiad o’ch eiddo sy’n aml yn cael ei alw’n “eiddo a lesiwyd”. Gelwir unrhyw ardaloedd y mae’r landlord yn berchen arnynt neu’n eu rheoli yn “eiddo a ddargedwir”. Bydd y disgrifiadau hyn fel arfer yn agos at ddechrau eich les neu mewn adran ar y diwedd a elwir yn atodlen. Gallai hefyd gyfeirio at gynllun.
Byw mewn eiddo lesddaliadol
Fflatiau yw’r rhan fwyaf o eiddo lesddaliadol, ond mae rhai tai lesddaliadol hefyd. Er enghraifft, mae llawer o dai rhanberchnogaeth neu fyngalos mewn datblygiad ymddeol yn eiddo lesddaliadol.
Byw mewn fflat lesddaliadol
Gyda fflat lesddaliadol, rydych fel arfer yn berchen ar bopeth y tu mewn i bedair wal yr eiddo, gan gynnwys y lloriau, y plastr ar y waliau a’r nenfwd. Nid ydych yn berchen ar rannau allanol na strwythurol yr adeilad.
Y rhydd-ddeiliad sydd fel arfer yn berchen ar strwythur yr adeilad, yr ardaloedd a rennir a’r tir y mae’n sefyll arno. Mae’n gyfrifol am atgyweirio a chynnal a chadw ac adennill y costau hyn gan lesddeiliaid drwy daliadau gwasanaeth.
Fflatiau â les Tyneside (cris-groes) - Show Contents Hide Contents
Mae les Tyneside (sydd hefyd yn cael ei galw’n les gris-groes neu’n les drawsgroesi) yn cyfeirio at fath o berchnogaeth eiddo a geir amlaf mewn rhannau o ogledd Lloegr, lle mae’r tŷ wedi’i rannu’n ddwy fflat.
Yn wahanol i fflat lesddaliad safonol, mae pob perchennog fflat:
- yn lesddeiliad ei fflat ei hun, ac
- yn landlord y fflat arall
Oherwydd hyn, gall pethau fel atgyweirio, addasu, cynnal a chadw, yswiriant a gwerthu weithio’n wahanol.
Gall y manylion hyn ddibynnu ar yr hyn y mae eich les benodol yn ei ddweud, felly edrychwch arni bob amser i weld:
- a yw’r ddwy fflat yn gyfrifol am drefnu unrhyw waith atgyweirio strwythurol
- pa addasiadau y mae angen caniatâd ar eu cyfer
- sut mae yswiriant adeiladau’n cael ei drefnu a sut y telir amdano
- sut mae gwaith atgyweirio a chynnal a chadw yn cael ei dalu a’i gyfrif
- sut y caiff anghydfodau eu datrys
Mae gan berchnogion lesoedd o’r fath yr hawliau lesddeiliad arferol o hyd, gan gynnwys:
- herio taliadau gwasanaeth
- ymestyn y les neu gytuno ar estyniad gwirfoddol rhwng y ddwy fflat
- prynu’r rhydd-ddaliad
Byw mewn tŷ lesddaliadol
Gyda thŷ lesddaliad, mae’r les fel arfer yn cynnwys yr adeilad cyfan, y tu mewn a’r tu allan, a gallai hefyd gynnwys y gerddi. Yn yr achos hwn, y lesddeiliad sydd fel arfer yn gyfrifol am yr holl waith atgyweirio a chynnal a chadw ar yr eiddo.
Os yw’r tŷ ar “ystâd a reolir” (sef tir neu eiddo sy’n cynnwys ardaloedd neu gyfleusterau a rennir sy’n cael eu defnyddio gan fwy nag un perchennog neu lesddeiliad), mae’n bosibl y bydd y rhydd-ddeiliad yn gyfrifol am gynnal a chadw’r ardaloedd cymunedol hynny – fel ffyrdd neu erddi a rennir. Mae costau cynnal a chadw’r ardaloedd hyn fel arfer yn cael eu hadennill gan lesddeiliaid drwy daliadau amrywiol (sydd yn aml yn cael eu galw’n “daliadau ystâd”).
Eich hawliau a’ch cyfrifoldebau
Bydd eich les yn nodi eich hawliau a’ch cyfrifoldebau. Dyma rai cyffredin i lesddeiliaid:
- hawliau statudol: ymestyn les, prynu’r rhydd-ddaliad, ymgynghori â chi ynghylch costau, herio taliadau
- hawliau seiliedig ar les: mynediad i ardaloedd a rennir, preifatrwydd a defnydd o’r eiddo
- cyfrifoldebau: talu ffioedd a thaliadau a nodir yn y les, peidio â tharfu ar gymdogion
- cael caniatâd: cyn newid yr eiddo neu ei isosod (ei rentu allan)
Mae lesoedd yn ddogfennau cyfreithiol, a gallant fod yn anodd eu deall. Gall eich hawliau a’ch cyfrifoldebau newid hefyd – er enghraifft, os byddwch yn prynu’r rhydd-ddaliad.
Cyfyngiadau (cyfamodau)
Mae’r rhan fwyaf o lesoedd yn cynnwys rheolau (sy’n cael eu galw’n “gyfyngiadau” neu’n “gyfamodau”) sy’n cyfyngu ar yr hyn y gallwch ei wneud gyda’ch cartref. Mae cyfyngiadau cyffredin yn cynnwys:
- addasiadau strwythurol (tynnu waliau, gosod ffenestri newydd, gwaith yn yr atig)
- newid lloriau (newid carpedi am loriau caled)
- isosod neu osod tymor byr (Airbnb)
- cadw anifeiliaid anwes
Cyfrifoldebau’r landlord (rhydd-ddeiliad)
Bydd eich les yn nodi hawliau a chyfrifoldebau eich landlord (rhydd-ddeiliad). Gall hawliau a chyfrifoldebau cyffredin gynnwys:
- gorfodi rheolau (telerau) y les
- rhoi caniatâd ar gyfer pethau fel addasiadau ac isosod eich cartref (ei rentu allan)
- casglu taliadau gwasanaeth, neu renti tir (os yw’n berthnasol)
- rheoli a chynnal unrhyw ardaloedd rydych yn berchen arnynt neu’n eu rheoli – er enghraifft, ar gyfer fflatiau, y strwythur allanol a’r mannau cymunedol
Rhestr wirio ar gyfer lesddaliad
Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall eich les, yn enwedig:
- y costau, gan gynnwys:
- taliadau gwasanaeth – costau hanesyddol a chostau a ragwelir
- rhent tir – costau hanesyddol a chostau a ragwelir
- unrhyw gostau neu ffioedd eraill a nodir yn eich les
- unrhyw waith atgyweirio mawr arfaethedig a’r costau
- hyd y les a nifer y blynyddoedd sy’n weddill arni
- unrhyw gyfyngiadau, gan gynnwys pethau fel:
- isosod eich cartref (ei rentu allan)
- gwneud newidiadau a gwelliannau i’r cartref
- cadw anifeiliaid anwes
- eich cyfrifoldebau chi a chyfrifoldebau eich landlord neu ei asiant rheoli
- eich hawliau statudol, gan gynnwys os ydych chi’n gymwys i gael yr hawl i’r canlynol:
- ymestyn y les
- prynu’r rhydd-ddaliad
- cymryd cyfrifoldeb am y gwaith o reoli’r adeilad (fflatiau yn unig)
- pwy yw’r landlord a’r asiant rheoli, ac a yw’n ddibynadwy
- Last updated:
- 22 December 2025
- Next review:
- 22 December 2027