Skip to main content

Cyflwyniad i lesddaliad

Landlordiaid a rhydd-ddeiliaid

Esboniwr

Mae’r rhydd-ddeiliad yn berchen yn llwyr ar y tir a’r adeilad, a’r landlord yw’r person rydych chi’n lesio’r eiddo ganddo. Gallant fod yr un person, ond dim ond pan mai’r rhydd-ddeiliad yw’r sawl sy’n rhoi’r les i chi yn uniongyrchol.

Mae’n bosibl i’r rhydd-ddeiliad neu’r landlord fod yn:

  • unigolyn
  • cwmni
  • sefydliad (er enghraifft, cyngor lleol, cymdeithas dai neu ymddiriedolaeth elusennol)

Mae gan rai eiddo fwy nag un landlord

Yn y sefyllfa symlaf, eich landlord sy’n berchen ar y tir a’r adeilad ac yn rhoi’r les yn uniongyrchol i chi. Mae gennych un landlord: ef yw’r rhydd-ddeiliad, a gydag ef yr ydych yn delio.

Ond mae haenau ychwanegol mewn rhai eiddo. Mae “landlord canolradd” (sydd weithiau’n cael ei alw’n “brif lesydd”) yn rhywun sydd gan les gan y rhydd-ddeiliad ac sydd wedyn yn rhoi les i chi. Y rhydd-ddeiliad yn yr achos hwn yw’r uwchlandlord (sy’n aml yn cael ei alw’n “landlord cymwys”). Fel arfer, yr uwchlandlord yw’r un sydd ag awdurdod cyfreithiol i roi estyniad ar les neu i werthu’r rhydd-ddaliad.

Rolau cyffredin mewn lesddaliad

Tabl crynodeb o rolau cyffredin
Pwy Beth maen nhw’n ei wneud Fflatiau Tai
Landlord (rhydd-ddeiliad) Perchen ar y tir a’r adeilad. Fel arfer, mae’n rhoi’r les i lesddeiliad. Gall fod yn unigolyn neu’n gwmni. Cyffredin Cyffredin
Cwmni rheoli Cyfrifol am reoli’r adeilad neu’r ystâd. Mae’n eiddo i’r rhydd-ddeiliad neu’r lesddeiliaid ac mae’n cael ei reoli ganddynt. Gallant gyflogi asiant rheoli. Cyffredin Weithiau (er enghraifft ar stadau tai newydd a datblygiadau tai ymddeol)
Asiant rheoli Cael ei gyflogi i reoli’r adeilad neu’r ystâd o ddydd i ddydd ar ran y rhydd-ddeiliad, y cwmni rheoli neu’r lesddeiliaid. Fel arfer, ni chaiff ei enwi yn y les. Cyffredin Weithiau (os oes ardaloedd a rennir)

“Partïon” yn y les

Partïon yn y les yw’r bobl neu’r sefydliadau a enwir yn y les sydd â chyfrifoldebau neu hawliau cyfreithiol mewn perthynas â’r eiddo. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae hyn yn golygu:

  • chi, y lesddeiliad
  • y landlord (rhydd-ddeiliad) – gall hwn hefyd fod yn gwmni
  • rhoddwr benthyciad morgais – os gwnaethoch brynu eich les gyda morgais

Nid yw asiant rheoli’r landlord wedi’i restru yn y les gan mai dim ond i’r landlord y mae’n gweithio, ac nid oes ganddo hawliau gwirioneddol mewn perthynas â’r eiddo.

Gall y partïon a restrir yn y les fod yn hen neu’n anghywir. Er enghraifft, os yw’r morgais wedi’i dalu, os yw’r rhydd-ddaliad wedi’i drosglwyddo i rywun arall, neu os yw’r landlord yn gwmni sydd wedi newid ei enw.

Mae gennych hawl gyfreithiol i wybod pwy yw eich landlord (rhydd-ddeiliad) a gallwch gael cadarnhad ffurfiol o’r wybodaeth hon am ddim.

Cael cadarnhad ynghylch pwy yw eich landlord (y rhydd-ddeiliad)

Fel lesddeiliad, mae gennych hawl gyfreithiol i gael cadarnhad ffurfiol ynghylch pwy yw eich landlord (y rhydd-ddeiliad). Gallwch ddefnyddio ein llythyr templed i’ch helpu i wneud hyn.

Cael cadarnhad ynghylch pwy yw eich landlord (y rhydd-ddeiliad)

Last updated:
22 December 2025
Next review:
22 December 2027