Cyflwyniad i lesddaliad
Trosolwg
Sut mae lesddaliad yn gweithio
Yn ei hanfod, math o denantiaeth hirdymor yw lesddaliad. Rydych yn prynu’r hawl i fyw mewn eiddo a’i ddefnyddio am nifer penodol o flynyddoedd, sy’n cael ei nodi mewn cytundeb cyfreithiol o’r enw les.
Fel arfer, mae les yn para 99, 125 neu 999 o flynyddoedd, ond mae rhai yn fyrrach. Yn ystod y cyfnod hwn, gallwch fyw yn yr eiddo neu ei werthu yn amodol ar delerau’r les.
Mae hyd les yn cael ei alw’n “dymor”. Mae’r tymor bob amser yn cyfrif i lawr o’r diwrnod y rhoddwyd y les gyntaf, nid o’r adeg y gwnaethoch ei phrynu. Gall hyn esbonio pam mai dim ond 99 mlynedd sydd ar ôl ar les 125 mlynedd pan fyddwch yn ei phrynu.
Wrth i’r les fyrhau
Pan fydd 80 mlynedd neu lai ar ôl ar y les, mae’n cael ei galw’n “les fer”. Mae’n llawer drutach ymestyn les fer, ac mae’n anoddach ei hailforgeisio.
Yn gyffredinol, mae hyn yn effeithio ar werth ailwerthu’r eiddo hefyd gan fod yn well gan brynwyr eiddo sydd â les hir.
Mae’r rhan fwyaf o lesddeiliaid yn osgoi hyn drwy ymestyn y les neu brynu’r rhydd-ddaliad cyn i’r les ostwng i 80 mlynedd. Hefyd, mae’r llywodraeth yn bwriadu rhoi diwygiadau ar waith sy’n anelu at ei gwneud yn rhatach ac yn haws i brynu les (yn enwedig lesoedd byr).
Pan ddaw y les i ben
Pan ddaw eich les i ben, bydd perchnogaeth gyfreithiol yr eiddo fel arfer yn dychwelyd i’r rhydd-ddeiliad. Mae’r rhan fwyaf o lesddeiliaid yn osgoi hyn drwy ymestyn y les neu brynu’r rhydd-ddaliad cyn i’r les ddod i ben.
Lesddaliad vs rhydd-ddaliad
| Lesddaliad | Rhydd-ddaliad |
|---|---|
| Rydych yn berchen ar eich cartref am gyfnod penodol (fel arfer 99, 125, neu 999 o flynyddoedd) gyda’r potensial i ymestyn y cyfnod hwn (a elwir yn estyniad ar les). | Rydych chi’n berchen ar eich cartref am gyfnod amhenodol – does dim terfyn amser. |
| Mae telerau eich les yn rheoli beth gewch chi ei wneud a beth na chewch chi ei wneud i’ch cartref – er enghraifft, os gallwch chi wneud addasiadau neu ei rentu allan. | Nid oes unrhyw les yn cyfyngu ar yr hyn y gallwch ei wneud. |
|
Rydych yn talu’r costau a nodir yn y les – er enghraifft, taliadau gwasanaeth, taliadau gweinyddu ac weithiau rhent tir. |
Fel arfer, nid ydych yn talu unrhyw daliadau na rhent tir. |
Cyfunddaliad: dewis arall yn lle lesddaliad
Mae cyfunddaliad yn fath prin iawn o berchnogaeth ar hyn o bryd. Mae’n caniatáu i chi fod yn berchen ar rydd-ddaliad fflat, tŷ neu uned ddibreswyl unigol mewn adeilad neu ar ystâd. Ac yn wahanol i lesddaliad, does dim terfyn ar ba mor hir rydych chi’n berchen ar yr eiddo.
| Fflatiau lesddaliadol | Cyfunddaliad |
|---|---|
| Rydych yn berchen ar eich cartref am gyfnod penodol (fel arfer 99, 125, neu 999 o flynyddoedd) gyda'r potensial i ymestyn y cyfnod hwn (a elwir yn estyniad ar les). | Rydych yn berchen ar eich cartref am gyfnod amhenodol. Does dim terfyn amser. |
| Y landlord (rhydd-ddeiliad) sydd fel arfer yn berchen ar strwythur yr adeilad, yr ardaloedd a rennir a’r tir y mae’n sefyll arno. | Does dim landlord (rhydd-ddeiliad). Mae perchnogion fflatiau yn berchen ar eu hadeilad ac yn ei reoli gyda’i gilydd drwy gymdeithas cyfunddaliad sydd â rheolaeth lawn dros reoli a chostau’r adeilad. |
| Rydych yn talu’r costau a nodir yn y les – er enghraifft, taliadau gwasanaeth, taliadau gweinyddu ac weithiau rhent tir. | Does dim rhent tir. Rydych yn talu ffioedd gwasanaeth am gynnal a chadw a rhedeg gwasanaethau a rennir a mannau cyffredin. |
- Last updated:
- 22 December 2025
- Next review:
- 22 December 2027