Gallwch gael copi o’ch les gan y canlynol:
- y cyfreithiwr a’ch helpodd i brynu’r eiddo
- eich darparwr morgais
- y Gofrestrfa Tir
Cael copi gan y Gofrestrfa Tir
- Lawrlwythwch ffurflen OC2 oddi ar wefan y Gofrestrfa Tir.
- Llenwch y ffurflen – bydd arnoch chi angen rhif teitl yr eiddo. Os nad ydych chi’n gwybod y rhif, gallwch ddefnyddio gwasanaeth y Gofrestrfa Tir i chwilio am gofrestr teitl ar-lein (mae hyn yn costio £7).
- Amgaewch daliad o £11 drwy siec neu archeb bost, yn daladwy i "Gofrestrfa Tir EF". Gwiriwch y ffioedd a'r dulliau talu diweddaraf.
- Anfonwch y ffurflen wedi'i llenwi a'r taliad drwy'r post i:
HM Land Registry
Citizen Centre
PO Box 7806
Bilston
WV1 9QR - Bydd y Gofrestrfa Tir yn anfon copi ffisegol swyddogol o'r les atoch yn y post.
Mae gan y Gofrestrfa Tir wasanaeth hefyd i wneud cais am gopïau o ddogfennau ar-lein, ond dim ond ar gyfer busnesau a gweithwyr proffesiynol, fel cyfreithwyr, mae hyn ar gael.
Fel arfer bydd y cynllun yn y les mewn lliw – er enghraifft gyda ffin yr eiddo wedi'i marcio mewn coch. Gall copïau o lesoedd hŷn amrywio o ran ansawdd gan ddibynnu ar gyflwr y ddogfen wreiddiol a gallant fod mewn du a gwyn.
Os yw'r copi mewn du a gwyn, efallai y bydd y Gofrestrfa Tir yn ychwanegu nodyn i esbonio unrhyw farciau lliw yn y ddogfen wreiddiol, megis ble mae'r ffin.
- Last updated:
- 21 October 2026
- Next review:
- 22 December 2027