Skip to main content

Cyflwyniad i lesddaliad

Costau a ffioedd

Costau a ffioedd arferol

Mae ffioedd a thaliadau’n gysylltiedig â chael les.

Mae’r ffioedd a’r taliadau gwirioneddol yn cael eu nodi eich les, ond dyma’r rhai mwyaf cyffredin:

  • taliadau gwasanaeth: ar gyfer cynnal a chadw adeiladau ac yswiriant adeiladau, glanhau, gwaith cynnal a chadw o ddydd i ddydd
  • rhent tir sy’n cael ei dalu i’r landlord (mae’n bosibl nad yw rhai lesoedd newydd yn codi hyn)
  • costau gweinyddol: ar gyfer gwaith rheoli neu wasanaethau
  • cyfraniadau gwaith mawr: taliadau untro am ffioedd gwasanaeth ar gyfer atgyweiriadau mawr

Mae’n bwysig eich bod yn deall:

  • pa ffioedd, taliadau a rhent tir y mae’n rhaid i chi eu talu
  • sut maent yn cael eu cyfrifo
  • pryd a sut y gallant gynyddu
  • eich hawliau sy’n gysylltiedig â nhw

Rhagor o wybodaeth: ffioedd a thaliadau a’ch hawliau

Last updated:
22 December 2025
Next review:
22 December 2027