Gwybodaeth am daliadau gwasanaeth
Sut mae taliadau gwasanaeth yn cael eu cyfrifo
Taliadau gwasanaeth sefydlog ac amrywiol
Mae’r rhan fwyaf o daliadau gwasanaeth yn amrywiol. Mae hyn yn golygu y gallant fynd i fyny neu i lawr heb gyfyngiad, yn seiliedig ar gostau gwirioneddol y gwasanaethau.
Mae rhai lesoedd hŷn yn dal i gynnwys tâl gwasanaeth sefydlog, lle byddwch yn talu’r swm a nodir yn y les – ni waeth beth yw’r gwir gostau i’r landlord.
Sut y cyfrifir eich cyfran
Mae taliadau gwasanaeth fel arfer yn cael eu rhannu rhwng lesddeiliaid mewn adeilad. Dylai’r ffordd y caiff eich cyfran ei chyfrifo gael ei nodi yn eich les.
Mae sawl ffordd o wneud hyn. Er enghraifft, gall eich cyfran chi fod yn seiliedig ar y canlynol:
- maint eich eiddo
- nifer yr ystafelloedd yn eich eiddo
- gwerth ardrethol eich eiddo
- sut mae gwahanol lesddeiliaid yn elwa ar wahanol wasanaethau
- nifer y lesddeiliaid yn yr adeilad (rhaniad cyfartal)
Weithiau, bydd y les yn nodi bod yn rhaid i bob lesddeiliad dalu cyfran “deg” neu “gyfiawn” o’r tâl gwasanaeth.
Pryd mae taliadau gwasanaeth yn cael eu talu
Fel arfer, bydd eich les yn nodi dyddiadau’r cyfnod y mae taliadau gwasanaeth yn cael eu cyfrifo ar ei gyfer (cyfnod y tâl gwasanaeth), a pha mor aml y mae’n rhaid i chi dalu.
Yn aml, blwyddyn yw cyfnod y tâl gwasanaeth, ond mae’n bosibl y bydd angen i chi ei dalu’n amlach, fel bob 6 mis neu bob 3 mis.
Bydd eich les yn dweud os bydd yn rhaid i chi wneud taliadau ymlaen llaw ac, os felly, a yw’r taliadau’n seiliedig ar gostau’r flwyddyn flaenorol neu ar amcangyfrif o’r costau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Mae’r rhan fwyaf o lesoedd modern yn caniatáu i daliadau gwasanaeth gael eu talu ymlaen llaw, ar sail amcangyfrifon.
Os byddwch yn talu ymlaen llaw, yn aml bydd angen i chi dalu ffi derfynol ar ddiwedd y flwyddyn, os yw’r costau gwirioneddol yn uwch na’r taliadau a wnaethoch.
Os yw’r taliadau a wnewch ymlaen llaw yn uwch na’r costau gwirioneddol, yn dibynnu ar yr hyn y mae’n ei ddweud yn y les, gall yr arian ychwanegol gael:
- ei ddefnyddio i leihau costau ar gyfer y flwyddyn ganlynol
- ei ad-dalu i lesddeiliaid
- ei dalu i gronfa wrth gefn neu gronfa ad-dalu
Mae rhai lesoedd, rhai hŷn fel arfer, yn dweud bod taliadau gwasanaeth yn cael eu talu ar ôl diwedd cyfnod y tâl gwasanaeth, pan fydd y landlord eisoes wedi ysgwyddo’r costau (ôl-daliadau). Yn yr achos hwn, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i’r landlord fenthyca arian i dalu am y gwasanaethau. Gall y les wedyn ganiatáu iddynt adennill costau’r gwasanaethau ac unrhyw log a godir.
- Last updated:
- 19 December 2025
- Next review:
- 19 December 2027
Related content
When and how to challenge unreasonable service charges at a tribunal
Advice guideWhat your landlord can do if you do not pay, and how to get help
Advice guideYou and your landlord's repair responsibilities, getting repairs and water leaks fixed
Topic - Building management