Skip to main content

Gwybodaeth am daliadau gwasanaeth

Beth yw taliadau gwasanaeth?

Taliadau y mae lesddeiliad yn eu gwneud i’r rhydd-ddeiliad (y landlord) i dalu am gyfran y lesddeiliad o gostau darparu gwasanaethau i reoli’r adeilad, megis cynnal a chadw ac yswiriant, yw taliadau gwasanaeth.

Pan fyddwch yn berchen ar eiddo lesddaliad, eich landlord sy’n gyfrifol am ddarparu’r gwasanaethau hyn, ac rydych chi’n gyfrifol am gyfrannu at y costau.

Bydd eich les yn nodi manylion yr hyn y gall eich landlord godi tâl amdano, a sut a phryd y bydd angen i chi wneud taliadau gwasanaeth.

Fel arfer, dim ond os yw’r canlynol yn berthnasol y gall y landlord adennill costau drwy daliadau gwasanaeth:

  • mae’r taliadau yn rhesymol
  • mae’r gwaith yn cael ei wneud i safon resymol
  • mae’r gwasanaethau wedi’u cynnwys yn eich les

Mae gennych hawl i herio taliadau gwasanaeth os ydych yn credu eu bod yn afresymol.

Mae gennych hawl i weld gwybodaeth am eich taliadau gwasanaeth. Er enghraifft, gallwch ofyn i’ch landlord roi cyfrif am ei wariant drwy ddarparu crynodeb o’r costau.

Rhaid i’r landlord ddal taliadau gwasanaeth ar ymddiriedaeth ar gyfer y lesddeiliaid. Mae hyn yn golygu y gellir cadw’r arian mewn un neu fwy o gyfrifon i’w defnyddio at y dibenion a nodir yn y les. Os bydd y landlord yn mynd yn ansolfent, caiff yr arian ei ddiogelu ar gyfer y lesddeiliaid.

Last updated:
19 December 2025
Next review:
19 December 2027
Challenging service charges

When and how to challenge unreasonable service charges at a tribunal

Advice guide
If you do not pay your service charge

What your landlord can do if you do not pay, and how to get help

Advice guide
Repairs and maintenance

You and your landlord's repair responsibilities, getting repairs and water leaks fixed

Topic - Building management