Ymestyn les: dechrau arni
Gall ymestyn eich les ddiogelu gwerth eich fflat a’i gwneud yn haws ei werthu neu ei ailforgeisio. Wrth i’ch les fynd yn fyrrach, mae gwerth eich fflat yn gostwng fel arfer. Pan fydd y cyfnod sy’n weddill ar y les yn llai nag 80 mlynedd, bydd ymestyn y les yn llawer drutach oherwydd taliad ychwanegol o’r enw gwerth priodas.
Mae 2 brif ffordd o ymestyn eich les:
- trafod yn uniongyrchol gyda’ch landlord (y llwybr anffurfiol)
- defnyddio eich hawl gyfreithiol (y llwybr ffurfiol)
Gallwch ddefnyddio’r adnodd gwirio hyd les i gael gwybod faint o flynyddoedd sydd ar ôl ar eich les. Gallwch hefyd ddefnyddio’r gyfrifiannell ymestyn les i gael amcangyfrif o faint y gallai ei gostio i ymestyn les.
Mae’r gyfraith ar ymestyn les yn newid. Mae rhagor o wybodaeth am y diwygiadau sydd ar y gweill, a sut gallai’r newidiadau sydd ar y gweill effeithio ar gost a phroses ymestyn eich les, ar gael yma.
Pam ymestyn eich les
Mae ymestyn eich les yn ychwanegu blynyddoedd at y les, ac mae’n gallu:
- cynyddu gwerth eich fflat – fel arfer, mae’n well gan brynwyr lesoedd hir
- ei gwneud yn haws gwerthu neu ailforgeisio – mae’n well gan fenthycwyr lesoedd hir fel arfer
- eich helpu i negodi telerau les newydd
- golygu y gallwch osgoi talu gwerth priodas pan fydd eich les yn gostwng o dan 80 mlynedd
- atal eich les rhag mynd yn rhy fyr i werthu neu i ailforgeisio eich fflat yn rhwydd
Os oes llai na 85 mlynedd ar ôl ar eich les, mae fel arfer yn amser da i ddechrau ystyried ei hymestyn. Gall gweithredu cyn iddi gyrraedd 80 mlynedd arbed swm sylweddol o arian i chi.
Y ddau lwybr ar gyfer ymestyn eich les
Y llwybr anffurfiol (trafod yn uniongyrchol â’ch landlord)
Gallwch ofyn i’ch landlord a yw’n fodlon ymestyn eich les heb ddefnyddio’r broses ffurfiol. Mae hyn weithiau’n gyflymach, a gall olygu costau cyfreithiol is. Fodd bynnag, nid oes rhaid i’ch landlord gytuno, ac nid yw’r llwybr anffurfiol yn cynnig yr un amddiffyniad ag estyniad statudol (ffurfiol) i les.
Os ydych chi’n defnyddio’r llwybr hwn, gwnewch yn siŵr eich bod yn deall:
- hyd yr estyniad
- faint fydd y rhent tir
- os oes unrhyw delerau eraill yn eich les yn newid
Darllen mwy am y llwybr anffurfiol.
Os na allwch gytuno, a’ch bod yn gymwys dan y Ddeddf, gallwch newid i’r llwybr ffurfiol.
Y llwybr ffurfiol (proses statudol o dan Ddeddf 1993)
I fod yn gymwys ar gyfer estyniad ffurfiol, rhaid bod gennych les hir (21 mlynedd neu fwy pan roddwyd hi gyntaf) ar fflat, a rhaid i’r les honno beidio cael ei heithrio gan Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993.
Mae’r broses ffurfiol yn rhoi’r hawl i chi ymestyn eich les 90 mlynedd a lleihau’r rhent tir i sero (a elwir yn “rhent hedyn pupur”).
Mae’r broses ffurfiol o ymestyn les yn dechrau pan fyddwch yn cyflwyno hysbysiad tenant (a elwir yn hysbysiad Adran 42) i’ch landlord ac yn gorffen drwy gael les newydd.
Mae’r broses hon yn nodi terfynau amser cyfreithiol ar gyfer:
- cyflwyno hysbysiad tenant (Adran 42) i’ch landlord
- ymateb y landlord o ran cyflwyno gwrth-hysbysiad (Adran 45)
- negodi telerau’r premiwm a’r les
- gwneud cais i’r Tribiwnlys Prisio Lesddaliad yng Nghymru neu’r Tribiwnlys Haen Gyntaf (Siambr Eiddo) yn Lloegr os na allwch gytuno
Mae’r llwybr ffurfiol yn rhoi hawliau cryfach a therfynau amser cliriach i chi, ond gall gymryd mwy o amser a chynnwys costau ychwanegol.
Faint fydd hyn yn ei gostio (prisiad)
Premiwm yw’r enw ar y pris rydych yn ei dalu i ymestyn eich les.
Defnyddiwch ein cyfrifiannell ymestyn les i gael amcangyfrif. I gael union ffigur, dylech gael prisiad proffesiynol. Sylwch, nid ydym yn darparu cyngor ysgrifenedig na chyngor dros y ffôn ar brisio.
I gael trosolwg, darllenwch ein canllaw ar brisio a chostau.
Bydd angen ichi dalu’ch costau cyfreithiol a’ch costau prisio eich hun hefyd a chostau rhesymol eich landlord.
Os yw eich sefyllfa’n fwy cymhleth
Mewn rhai achosion, nid yw’r broses arferol yn berthnasol, er enghraifft:
- os ydych chi’n gwerthu neu’n prynu ac eisiau ymestyn ar yr un pryd
- os ydych wedi etifeddu fflat gyda les fer
- os yw eich landlord ar goll neu ddim yn ymateb
- os ydych yn berchen ar gyfran o’r rhydd-ddaliad
Mae’r achosion hyn yn dilyn gweithdrefnau gwahanol.
Darllenwch y canllawiau ar gyfer ymestyn eich les os yw eich sefyllfa’n fwy cymhleth.
Cael cymorth proffesiynol
Mae ymestyn les yn broses gyfreithiol, ac fel arfer bydd angen cyfreithiwr a phrisiwr arnoch (mae syrfewyr yn aml yn galw eu hunain yn syrfewyr prisio). Dylech ddewis gweithwyr proffesiynol sydd â phrofiad o ymestyn lesoedd.
Sylwch, gallwn esbonio’r broses a’ch helpu i ddeall eich opsiynau, ond ni allwn weithredu ar eich rhan na darparu ffigurau prisio.
- Last updated:
- 16 December 2025
- Next review:
- 6 December 2027