Skip to main content

Want to take over the management of your building?

Our E-Learning platform has modules for leaseholders looking to manage their own building using a RTM company.

Find out more here

Cyflwyniad

Mae rheolaeth cywir o stoc dai yn hanfodol i’r berthynas rhwng landlordiaid yn y sector cyhoeddus a’u lesddalwyr. Gall prosiectau gwaith pwysig a’r effaith ariannol ar lesddalwyr sy’n dilyn y rhain fod yn ffynhonnell cryn dyndra. Gallai mynd i’r afael ag ymarfer da yn y maes hwn fod o gymorth i landlordiaid arolygu prosiectau yn effeithiol a rhoi hyder i lesddalwyr bod eu buddiannau yn destun gofal.

Safonau

Codi a chynnal safonau wrth gyflenwi gwasanaethau yw nod dau Arweinlyfr Ymarfer Da a gynhyrchwyd ar y cyd gan LEASE, pobl sydd yn ymwneud yn broffesiynol â thai, lesddalwyr ac ymgynghorwyr annibynnol gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r ddau arweinlyfr gwahanol yn canolbwyntio ar waith pwysig ac wedi eu cyfeirio yn benodol at landlordiaid cymdeithasol a’u lesddalwyr –

Ffyrdd Eraill o Ddatrys Anghydfod

Gall ymdrin yn effeithiol â gwaith pwysig fod o gymorth i leddfu meysydd anghydfod posibl a chadw materion o gyrraedd llysoedd a thribiwnlysoedd.

Gall anghydfodau gwaith mawr fod yn hir a chostus, ac yn aml nid oes enillydd amlwg ar y diwedd. Gall rhai gael eu setlo trwy drafodaethau neu ddefnyddio proses fewnol y landlord ar gyfer datrys anghydfodau. Fodd bynnag, efallai bydd y partïon eisiau troi at drydydd parti annibynnol i ystyried materion o’r newydd lle nad yw materion wedi’u setlo.

Efallai bydd y partïon yn dymuno archwilio dull amgen o ddatrys anghydfod i ddatrys anghydfodau’n gyfeillgar ac osgoi’r angen i ddefnyddio achos cyfreithiol mwy ffurfiol ac o bosibl mwy costus un y Tribiwnlys Prisio Lesddaliadau (LVT) neu’r llysoedd.

LEASE is supported by the Welsh Government.