Skip to main content

Want to take over the management of your building?

Our E-Learning platform has modules for leaseholders looking to manage their own building using a RTM company.

Find out more here

Thinking of buying a flat? (Cymraeg – Welsh language version)

Find the English language version here Ystyried prynu fflat? Rhaid i’ch asiant tai roi gwybod ichi am unrhyw beth bwysig […]

Find the English language version here

Ystyried prynu fflat?

Rhaid i’ch asiant tai roi gwybod ichi am unrhyw beth bwysig a allai effeithio ar eich penderfyniad i brynu.

  • Mae dau brif ddull o berchen ar eiddo yng Nghymru a Lloegr. Mae rhydd-ddaliad yn arferol ar gyfer tai ond mae lesddaliad yn arferol ar gyfer fflatiau.
  • Mae rhydd-ddaliad yn golygu eich bod yn berchen ar y tir a’r adeilad sy’n eistedd arno.
  • Mae lesddaliad yn golygu eich bod yn berchen ar yr hawl i feddiannu’r eiddo am nifer penodol o flynyddoedd (e.e. 99, 125 neu o flynyddoedd) trwy berchen ar y les, sef contract.
  • Bydd y les yn cyflwyno’r termau manwl y mae gennych hawl i feddiannu’r eiddo arnynt, gan gynnwys eich hawliau a chyfrifoldebau fel lesddeiliad
Rhydd-ddaliad Lesddaliad
Ddylwn i gael arolwg? Dylech Dylech, nid yw materion yn ymwneud â’r tu mewn i fflat yn llai pwysig na’r rhai hynny mewn ty; a dylai’r arolwg drafod yr adeilad sy’n cynnwys y fflat hefyd.
Pwy sy’n trefnu a thalu am gynnal yr adeilad? Chi fel arfer Fel arfer mae perchennog yr adeilad (y landlord) yn cynnal rhannau cyffredin yr adeilad (yn aml trwy asiant rheoli proffesiynol) a bydd yn adennill eich rhan chi o’r gost trwy’r taliad gwasanaeth.
Pwy sy’n yswirio’r adeilad? Chi fel arfer Fel arfer mae’r landlord yn yswirio’r adeilad ond bydd yn codi’ch rhan chi o’r gost arnoch fel taliad gwasanaeth. Byddwch chi’n gyfrifol am yswirio’ch cynnwys.
Alla i newid yr eiddo? Gallwch, cyhyd â bod gennych y caniatâd cynllunio, y caniatâd rheoli adeiladu ac unrhyw ganiatâd arall sydd ei angen. Fel arfer bydd arnoch angen caniatâd ysgrifenedig gan y landlord cyn gwneud unrhyw newidiadau strwythurol. Gallant godi ffi am hyn.
Alla i redeg busnes o’m eiddo? Gallwch fel arfer Efallai na fydd y les yn caniatáu ichi wneud hyn – gwiriwch gyda’ch cyfreithiwr.
Alla i osod yr eiddo? Gallwch fel arfer, ond cofiwch wirio amodau’ch morgais.
A alla i gadw anifeiliaid anwes? Gallwch fel arfer

Telerau y dylech eu gwybod

Y les

Dyma’r cytundeb ysgrifenedig sy’n cyflwyno’ch hawliau a chyfrifoldebau, gan gynnwys yr hawl ichi fyw yn yr eiddo a’i ddefnyddio. Trosglwyddir yr un les bob tro y gwerthir y fflat, felly mae hyd y les yn dal i leihau. Dylech fod yn ymwybodol, unwaith y byddwch wedi berchen ar yr eiddo
lesddaliadol am fwy na dwy flynedd, fel arfer bydd gennych yr hawl i ymestyn y les o 90 mlynedd ychwanegol. Os yw’r les yn syrthio o dan 80 mlynedd sy’n weddill bydd yr hawl hon yn dal gyda chi ond fel arfer bydd rhaid ichi dalu swm cynyddol i’r rhydd-ddeiliad (neu’r prif lesddeiliad) am yr estyniad hwn. Mae’n arbennig o bwysig i geisio cyngor proffesiynol ar y pwynt diwethaf hwn, yn arbennig os yw’r les ar yr eiddo’n llai nag 85 mlynedd sydd ar ôl. Bydd y mwyafrif o gwmnïau morgais yn benthyca ar les sydd â mwy nag 80 mlynedd ar ôl yn unig.

Rhent tir

Fel arfer mae’n daliad blynyddol a delir i’r landlord, a gall godi dros gyfnod o amser.

Asiant rheoli

Rôl ar gyfer gweithiwr proffesiynol, wedi’i huro gan y landlord neu mewn rhai achosion gwmni rheoli’r preswylwyr, i drefnu gwasanaethau, trwsiadau, cynnal a chadw, gwelliannau, neu yswiriant neu i ddelio ag unrhyw agwedd arall ar y gwaith rheoli, ac fel arfer ar gyfer adeilad a rennir yn fflatiau.

Cronfa wrth gefn neu gronfa ad-dalu

Mae rhai lesi’n galluogi landlordiaid i gasglu arian ychwanegol gan berchnogion fflatiau bob blwyddyn tuag at weithfeydd mawr, ond anaml megis addurno allanol, amnewid y lifft, boeler neu do. Mae hyn yn golygu y gellir lledaenu cost gweithfeydd mawr dros nifer o flynyddoedd.

Cymdeithas preswylwyr

Mae cymdeithas tenantiaid yn garfan o denantiaid (fel arfer lesddeiliaid) sy’n dal tai neu fflatiau ar lesi gan yr un landlord. Mae Cymdeithas Tenantiaid Gydnabyddedig yn un lle mae’r gyfraith yn darparu hawliau penodol i gymdeithas, ond hefyd lle mae ei haelodau wedi dod ynghyd er mwyn cynrychioli eu buddiannau cyffredin fel y gall y gymdeithas weithredu ar eu rhan o dan yr hawliau hynny.

Taliad gwasanaeth

Dyma daliad i’r asiantwyr rheoli, ar ran y landlord, o’ch rhan o’r holl gostau ar gyfer cynnal ac yswirio’r adeilad; ond bydd y swm yn amrywio gan ddibynnu ar y gwasanaethau a ddarperir. Mae’r ddeddfwriaeth yn mynnu bod y taliadau hyn yn rhesymol, ac er y gall fod yn ddefnyddiol gweld hanes taliadau diweddar, gall y costau ar gyfer yr un gwasanaethau amrywio dros gyfnod o amser yn ogystal ag amrywio ar gyfer lefelau gwahanol o wasanaeth

Rhan o’r rhydd-ddaliad

Dyma le perchnogir yr holl adeilad gan yr holl berchnogion fflatiau, fel arfer trwy gwmni mae gan bob un ohonynt gyfran ynddo. Fodd bynnag, nid yw cael cyfran yn y rhydd-ddaliad yn golygu y gallwch wneud beth bynnag rydych am ei wneud, mae telerau’r les yn aros, ac mae’n rhaid cadw atynt.

Ymwadiad

Mae’r wybodaeth hon yn gyffredinol ei natur ac ni ddylid dibynnu arni mewn cysylltiad ag unrhyw bryniad arbennig o eiddo. Mae i’w defnyddio i arddangos rhai o’r gwahaniaethau rhwng lesddaliad a rhydd-ddaliad yn unig. Mae’n gymwys i eiddo yng Nghymru a Lloegr yn unig. Bydd angen ichi gymryd cyngor gan eich cyfreithiwr ynghylch unrhyw eiddo rydych wedi cytuno i’w brynu cyn ichi ymrwymo i’w brynu – fel arfer bydd hyn yn golygu cyn ichi wneud contract i’w brynu.

LEASE is supported by the Welsh Government.