Skip to main content

Want to take over the management of your building?

Our E-Learning platform has modules for leaseholders looking to manage their own building using a RTM company.

Find out more here

Defnyddio cyfryngiad LEASE i ddatrys eich anghydfod parthed tâl am wasanaeth yng Nghymru

Pam fod anghydfod yn digwydd? Mae anghydfod yn rhan naturiol o fywyd. Mae pobl yn gweld pethau yn wahanol, yn […]

Pam fod anghydfod yn digwydd?

Mae anghydfod yn rhan naturiol o fywyd. Mae pobl yn gweld pethau yn wahanol, yn ymddwyn yn wahanol ac, wrth gwrs, bydd ganddynt eu hagweddau unigol ar fywyd.

Mae anghydfod yn nodwedd arbennig o eiddo preswyl ar brydles, yn enwedig pan fo arian yn rhan o’r mater ar ffurf gofyn am daliadau am wasanaeth e.e. ar gyfer talu am waith pwysig ar do neu y tu allan i adeilad.

Mae’r arweiniad hwn yn egluro:

Adran 1: Natur y cyfryngiad
Adran 2: Sut i fynd â’ch anghydfod parthed tâl am wasanaeth i wasanaeth cyfryngiad LEASE
Adran 3: Y sesiwn cyfryngiad o’r dechrau i’r diwedd

PRIF AWGRYM
  • Bydd y cyfryngwr yn gwneud ei orau / gorau glas i rhoi cymorth i’r naill ochr a’r llall i ddatrys yr anghydfod parthed tâl am wasanaeth. Fodd bynnag, ni fedr y cyfryngwr gymryd ochr ac ni fydd yn gwneud penderfyniadau gorfodol na dyfarniadau.

 

Natur y cyfryngiad

Pam ddylai fod gen i ddiddordeb mewn cyfryngiad i ddatrys fy anghydfod parthed tâl am wasanaeth?

Am ei fod yn gweithio. Mae ganddo straeon llwyddiant. Mae’n eich gosod chi yn sedd y gyrrwr ac nid yn dibynnu ar farn llys neu dribiwnlys lle nad oes gennych reolaeth. Ac mae’n wirfoddol. Medrwch gamu o’r neilltu ar unrhyw adeg os nad ydych yn gweld bod cynydd yn digwydd. O wneud hyn, medrwch ddal i gadw eich hawl i fynd i lys neu dribiwnlys. Fodd bynnag, os yw sesiwn cyfryngiad yn gorffen heb gytundeb i ddatrys yr anghydfod, ni all y naill barti na’r llall ofyn i’r cyfryngwr roi tystiolaeth mewn llys neu dribiwnlys.

Beth yw manteision cyfryngiad?

Gall llys neu dribiwnlys gymryd misoedd ac hyd yn oedd flynyddoedd i ddod ag anghydfod parthed tâl am wasanaeth i derfyn, a gall y broses fod yn ddrud iawn i’r partïon, gan ychwanegu at y rhwystredigaeth a gwaethygu’r berthynas ymhellach.
Gall cyfryngiad fod yn ddull cyflymach a rhatach o ddatrys materion. Yn breifat ac yn gyfrinachol, gall ddod a materion ger y bwrdd nad yw’r partïon am eu cyflwyno mewn llys neu dribiwnlys.
Ar ben hynny, nid yw’r cyfryngwr yn gosod barn neu ganlyniad ar y partïon a gall cyfryngiad arwain at ddatrysiadau nas caniateir gan weithdrefnau llys neu dribiwnlys.

Oes yna adegau pan nad yw cyfryngiad yn addas?

Efallai na fydd yn addas mewn achosion o dwyll neu pan fo angen gosod cynsail cyfreithiol.

Oes angen cynrychiolaeth proffesiynol ar gyfer cyfryngiad?

Bwriad cyfryngiad yw lleihau costau ac yn gyffredinol nid oes angen cynrychiolaeth proffesiynol.

 

Sut i ddwyn eich anghydfod parthed tâl am wasanaeth gerbron gwasanaeth cyfryngiad LEASE

Sut ydw i’n cyflwyno anghydfod parthed tâl am wasanaeth i wasanaeth cyfryngiad LEASE?

Gellir llenwi ffurflen gais cyfryngiad ar-lein (dolen ar ei gyfer). Dylai’r ffurflen, wedi ei chwblhau, gynnwys datganiad byr yn nodi’r materion yn yr anghydfod.

PRIF AWGRYM
  •  Mae’n ddefnyddiol cynnwys hanes unrhyw drafodaethau a fu.

Pwy fydd yn gweld yr wybodaeth rydych yn ei roi i ni?

Bydd y datganiad yn cael ei ddangos i’r ochr arall er mwyn i’r ddwy ochr werthfawrogi a deall safbwynt ei gilydd.

Beth fydd yn digwydd wedi imi gyflwyno’r ffurflen gais ar-lein?

Byddwn yn anfon copi electroneg o’ch ffurflen gais derfynol i’r ochr arall yn yr anghydfod; bydd ganddynt hwy ddolen i gysylltu gyda ffurflen Ymatebwr Cyfryngiad LEASE a bydd hyn yn rhoi cyfle iddynt ddatgan pa ganlyniad maent yn gobeithio ei gael gan y cyfryngiad.

Beth fydd y cam nesaf wedi i’r ochr arall gytuno i’r cyfryngiad?

Byddwn yn cysylltu gyda’r naill barti fel y llall i drefnu dyddiad ar gyfer sesiwn y cyfryngiad sydd yn dderbyniol i’r ddwy ochr.

Pwy ddylai fynd i sesiwn y cyfryngiad?

Pob parti sydd yn rhan o’r anghydfod, ac, i’r landlord, rhywun sydd â’r awdurdod i ddatrys yr anghydfod ac i lofnodi unrhyw gytundeb setliad ar ran y landlord hwnnw.

Sut ddylwn i baratoi ar gyfer y cyfryngiad?

Gyda meddwl agored a pharodrwydd i wrando ar yr ochr arall. Mae mynd i’r cyfryngiad gydag agwedd bositif yn hanfodol os am gael setliad sydd yn dderbyniol i’r ddwy ochr. Mae’n bwysig bod y naill barti a’r llall wedi paratoi yn ofalus. Dylech ystyried y materion a ganlyn:

  • Beth ydych chi’n dymuno ei gyflawni o’r cyfryngiad?
  • Beth ydych chi’n meddwl bod yr ochr arall yn dymuno ei gyflawni?
  • Beth yw’r pwyntiau cryfion ar eich ochr chi?
  • A beth yw’r pwyntiau gwan?
  • Y manteision a’r anfanteision o beidio setlo adeg y cyfryngiad.
  • Y canlyniadau posibl a fyddai’n diwallu eich anghenion chi a rhai’r parti arall.

Beth yw’r Rheolau Sylfaenol?

Mae’r rheolau sylfaenol yn gosod y tôn ar gyfer sesiwn y cyfryngiad a’u bwriad yw sicrhau bod y ffocws ar gyrraedd canlyniad sydd yn dderbyniol i’r ddwy ochr. Byddwn yn disgwyl i chi a’ch landlord gytuno i arwain y cyfryngiad fel a ganlyn:

  • Rydym yn cytuno i siarad, un ar y tro, heb dorri ar draws ein gilydd.
  • Rydym yn cytuno i beidio ag ymosod ar na defnyddio iaith sydd yn dirmygu’r llall.
  • Rydym yn cytuno i wrando gyda pharch i’r ochr arall ac i geisio deall eu anghenion a’u pryderon sylfaenol.
  • Rydym yn derbyn bod gan y naill ochr a’r llall eu persbectif hyd yn oed os nad ydym yn cytuno ag ef.
  • Byddwn yn canolbwyntio ar y dyfodol yr hoffem ei weld a pheidio â rhoi sylw i’r hyn a fethodd yn y gorffennol.
  • Rydym yn cytuno i feddwl am ddatrysiadau fydd yn dderbyniol o bawb sydd ynghlwm â’r broblem.
  • Rydym yn cytuno i ddefnyddio ein hamser yn gynhyrchiol yn ystod y cyfryngiad i symud tuag at y cytundeb mwyaf teg ac adeiladol y medrwn ei gyflawni.
  • Rydym yn cydnabod bod y cyfryngwr yn ddiduedd ac na fydd yn mynegi barn ar beth mae unrhyw un yn ei ddweud.
  • Rydym yn cytuno y medrwn ni neu’r cyfryngwr ofyn am egwyl os ydym angen gwneud.
  • Rydym yn cytuno y gall y naill neu’r llall ohonom neu’r cyfryngwr ofyn am gyfarfod preifat o’r neilltu os cwyd yr angen.
  • Rydym yn cytuno bod y cyfrifoldeb am setlo’r anghydfod yn gorwedd gyda’r partïon, nid y cyfryngwr.

 

Y sesiwn cyfryngiad o’r dechrau i’r diwedd

Ble bydd y cyfryngiad yn digwydd fel arfer?

Gan amlaf bydd yn digwydd mewn lleoliad o ddewis eich landlord. Bydd adnoddau ar gael yn y lleoliad fel y gall unrhyw gytundeb a wenir rhwng y ddwy ochr gael eu teipio ar gyfer eu llofnodi ac yna rhoddir copi i’r naill ochr a’r llall.

Pa mor hir fydd sesiwn y cyfryngiad yn parhau?

Bydd y cyfryngiad yn parhau am gyfnod o bedair awr ar y mwyaf.

Beth yw strwythur sesiwn cyfryngiad nodweddiadol?

Cam 1: Bydd y cyfryngwr yn agor y sesiwn trwy egluro’r drefn a’r rheolau sylfaenol sydd yn rheoli defodau ac ymddygiad y partïon

Cam 2: Bydd y cyfryngwr yn cwrdd â phob parti ar wahân i ddechrau a rhoi cyfle iddynt grynhoi’r materion o’u persbectif eu hunain fel y medr y cyfryngwr ddeall eu pryderon yn llawn.

Cam 3: Wedi hyn bydd y partïon yn mynd i sesiwn ar y cyd, gyda’r cyfryngwr, oni bai bod un ohonynt yn anghyffyrddus parthed cyfarfod wyneb yn wyneb. Bydd pob un yn cael cyfle i gyflwyno eu barn am yr anghydfod parthed tâl am wasanaeth, heb i’r llall darfu arno/arni; bydd y cyfryngwr yn crynhoi’r materion ac yna yn annog y ddwy ochr i gynnig datrysiadau posibl, sydd yn dderbyniol i’r naill fel y llall.

PRIF AWGRYM S
  • Bwriad y sesiwn ar y cyd yw cael trafodaeth wedi ei strwythuro, gan sicrhau bod pob person yn gwrando ar ac yn deall safbwynt y llall, ac yn gwneud pob ymdrech i ddatrys yr anghydfod.
  • Gall unrhyw barti, neu’r cyfryngwr, ofyn am dynnu terfyn ar y cyfryngiad ar unrhyw adeg heb gynnig rheswm.

Cam 4: Pan geir cytundeb, bydd y cyfryngwr yn rhoi cymorth i’r partïon baratoi cytundeb iddynt ei lofnodi.

Beth sy’n digwydd os na cheir cytundeb?

O bryd i’w gilydd gall fod rhai materion wedi eu datrys, ond nid pob un. Hyd yn oed wedi hynny, efallai bod y materion wedi cael eu lleihau a bod gan y ddwy ochr well dealltwriaeth o bryderon a diddordebau yr ochr arall.

Does dim byd i atal pob parti rhag ceisio setlo ar ôl y cyfryngiad. Mae’n amlwg ei bod yn well ac yn rhatach i setlo’r materion ar ddiwrnod y cyfryngiad.

LEASE is supported by the Welsh Government.